Community Engagement, Technology, Media & Arts Supporting The Community Since 2008

CYFLE I WEITHIO

dragon3 rainbow scaled 2 scaled

Teitl y Swydd: Cyd-Drefnydd Prosiect
Lleoliad: Llanelli
Enw’r Sefydliad: Prosiect LGBTQ+ Sir Gaerfyrddin, CETMA

Cyfeiriad: Canolfan Fusnes CETMA, Heol y Gors, Llanelli SA15 1BG

Mae cyfle wedi codi yn CETMA ar gyfer rôl Cydlynydd Prosiect LGBTQ + Sir Gaerfyrddin. Bydd y
swydd hon yn cynnwys parhau i arwain prosiect LGBTQ + arloesol sydd wedi sefydlu gwasanaethau
cymorth a grwpiau ar gyfer Cymuned LGBTQ + Sir Gaerfyrddin.

Bydd y swydd yma’n golygu arwain prosiect LGBTQ+ arloesol newydd ar y cyd, i sefydlu
gwasanaethau a grwpiau cymorth er lles y Gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol, Trawsrywiol a
‘Queer’ (LGBTQ+) yn Sir Gâr.

Mae LGBTQ + Sir Gaerfyrddin yn brosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol 3 blynedd sydd
newydd ddechrau blwyddyn 3. Felly mae’r swydd yn dymor penodol tan 31 Ionawr 2023 *.

Prosiect wedi’i ariannu gan y Cymuned Loteri Genedlaethol yw hwn. Mi fydd yn:
• Trefnu sesiynau galw-i-mewn rheolaidd mewn amgylchiadau diogel ar gyfer aelodau o’r
gymuned LGBTQ+
• Rhoi i aelodau o’r gymuned LGBTQ y gallu i wneud sylwadau trwy gyfrwng yr holl
blatfformau
• Ehangu cyfranogiad y gymuned LGBTQ trwy ymgysylltu Cymunedol ac adeiladu
cydberthnasau â darparwyr gwasanaethau lleol
• Rhoi cyhoeddusrwydd i gefnogaeth y gymuned LGBTQ+ trwy fynychu digwyddiadau
cyhoeddus
• Creu llwybrau dysgu ar gyfer gwirfoddolwyr LGBTQ+ i gynyddu eu sgiliau cyflogadwyedd (lle
bo angen)
• Annog y gymuned LGBTQ i greu cysylltiadau mwy effeithiol â’r Awdurdod Lleol a sefydliadau
eraill er mwyn hybu cyfranogiad a chynhwysiant

Bydd y person sy’n ddelfrydol i’r swydd hon yn meddu ar:
• Sgiliau rhyng-bersonol ardderchog, a’r gallu i ddatblygu a chynnal cysylltiadau gweithio da ar
bob lefel â rhychwant o ddarparwyr ac aelodau o’r gymuned
• Sgiliau cyfathrebu cadarn ar lafar ac mewn ysgrifen
• Gwybodaeth am gyllid, cyllidebu a rheoli prosiectau
• Y gallu i aml-dasgio a delio’n llwyddiannus â blaenoriaethau lluosog
• Y gallu i weithio’n dda, fel aelod o dîm ac ar eich liwt eich hun
• Y gallu i yrru (bydd minibws ar gael i’w ddefnyddio gan y prosiect, a darperir hyfforddiant i’w
yrru).
• Ymagwedd gadarnhaol tuag at y Gymraeg a diwylliant Cymru
• Gwybodaeth am dechnegau Ymgysylltu â’r Gymuned
• Y gallu i weithio’n sensitif gydag aelodau o’r gymuned sy’n agored i niwed a’u teuluoedd
• Profiad o hyrwyddo prosiectau gwasanaeth mewn lleoliadau yn y Gymuned

Cydnabyddiaeth Ariannol
• Cyflog: £21,000 y flwyddyn
• Oriau’r wythnos: 35
• Pensiwn: cynllun pensiwn cyfrannol.
• Telir lwfans milltiredd
• Rhaid ichi fod yn Gymwys i Weithio yn y DU

Felly mae’r swydd yn dymor penodol tan 31 Ionawr 2023 *.

Sut i ymgeisio
Anfonwch CV, ynghyd â llythyr eglurhaol yn amlinellu sut rydych chi’n bodloni manyleb y swydd a
pham eich bod yn credu mai chi a’ch sgiliau chi yw’r hyn sydd eu hangen i’r swydd. Dyddiad cau: 31
Awst 2021

Os oes angen addasiad rhesymol arnoch chi neu ryw gymorth arall er mwyn ichi gymryd rhan yn y
broses recriwtio, oherwydd anabledd er enghraifft, galwch CETMA ar 01554 772056.

Y dyddiad cau yw 31 Tachwedd 2021

Mae CETMA yn penodi ar sail teilyngdod.
Caiff rhestr fer ei llunio mewn modd gwrthrychol trwy asesu’r wybodaeth a roddwch chi a’i
chymharu â gofynion y swydd a osodir yn yr hysbysiad hwn. Os cewch chi eich cynnwys ar y rhestr
fer, byddwn yn cysylltu â chi i’ch gwahodd i gyfweliad.
Fe ddywedwn ni wrthych chi hefyd os ydym yn dymuno ichi wneud rhywbeth ychwanegol megis
prawf sgiliau, cyflwyniad neu ymweliad ag eiddo.
Ni fydd cofnod troseddol yn eich atal o angenrhaid rhag gweithio yn CETMA. Wrth ddod i
benderfyniad fe gymerwn ni i ystyriaeth natur eich gwaith, amgylchiadau’r drosedd/troseddau, y
cefndir, a’r amser sydd wedi mynd heibio ers hynny.

MANYLION YCHWANEGOL
Nod y prosiect yn y pendraw yw i grwpiau cynaliadwy gael eu sefydlu gan y gymuned LGBTQ+, dros y
gymuned LGBTQ+, er lles pawb.

Sut byddwn ni’n cyflawni hyn?
• Cynnal diwrnodau ymwybyddiaeth LGBTQ+ mewn trefi yn Sir Gaerfyrddin i hybu cyfartaledd
a dealltwriaeth yn y gymuned leol.
• Sefydlu a chynnal Canolbwyntiau LGBTQ+ yn Sir Gaerfyrddin. Y nod yw darparu lle diogel lle
y gall y gymuned LGBTQ+ ddod ynghyd unwaith neu ddwy bob mis i gael cymorth, cyngor a
chyfarwyddyd ac i adrodd am droseddau casineb.
• Y nod ar gyfer y Canolbwyntiau hyn yn y pendraw yw iddynt ddod yn gynaliadwy: gallai hyn
olygu eu bod yn troi’n gyrff Cyfansoddedig a chodi eu cyllid eu hunain. Bydd y
www.carmslgbtqplus.org.uk prosiect yn darparu hyfforddiant ar gyfer y rhai sydd ei angen i hyrwyddo hyn.
• Fe gynhelir diwrnod cefnogi LGBTQ+ pan fydd sefydliadau lleol yn gallu dod ynghyd i fynegi
eu cefnogaeth i’r gymuned hon.
• Fe all pob Canolbwynt anfon o leiaf un aelod i grŵp LGBTQ+ ehangach yn Sir Gaerfyrddin a
fydd yn cwrdd yn rheolaidd â chynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd, yr heddlu, yr Adran Gwaith a
Phensiynau (DWP) ayyb gyda golwg ar greu Sir Gaerfyrddin well er lles y gymuned LGBTQ+.
• Datblygu cydberthnasau â gwasanaethau eraill megis Heddlu Dyfed Powys.
• Llunio holiaduron ac arolygon fel y gall pobl ein hysbysu ni am sut mae’r prosiect wedi
effeithio ar eu bywydau. Fe awn ni ati hefyd i greu astudiaethau achos a chynnal cyfweliadau
â phobl sy’n cymryd rhan yn y prosiect.

Beth yw CETMA?
Mae CETMA (llythrenw sy’n sefyll yn Saesneg am Ymgysylltu â’r Gymuned, Technoleg, Cyfryngau a’r
Celfyddydau) yn fenter cymdeithasol sy’n darparu gwasanaethau Ymgysylltu Cymdeithasol,
Hyfforddiant, Iechyd a Llesiant trwy ddatblygu prosiectau cynaliadwy unigryw ar gyfer unigolion,
sefydliadau a busnesau.

Dyma ein prosiectau presennol:
• Cymorth LGBTQ+ Sir Gaerfyrddin
• Hyfforddiant Cymunedol CETMA
• Bwyd Gwarged CETMA
• Cymorth Iechyd Meddwl
• Banc Bwyd PBP
• CURAD (Ailgylchu Dillad, Ailgylchu a Dosbarthu)
• Neidio Cychwyn
• Megan a’r Sgwad Bwyd
*Cyflogaeth bellach yn dibynnu ar sicrhau cyllid pellach.